Dr Simon Brooks
Gw. manylion Dr. Simon Brooks uchod.
Dr. Simon Brooks yw golygydd y cylchgrawn Barn.
Ddiwedd 2004, cyhoeddwyd ei gyfrol academaidd gyntaf, O Dan Lygaid y Gestapo: Yr Oleuedigaeth Gymraeg a Theori Lenyddol yng Nghymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
Ymhlith ei gyhoeddiadau eraill y mae Llythyrau at Seimon Glyn (Y Lolfa), a’r pamffledi, Ceidwadaeth a’r Gymru Newydd, a gyhoeddwyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol, a Diwylliant Poblogaidd a’r Gymraeg (Cyfres y Cynulliad, Y Lolfa). Ef hefyd oedd golygydd cyffredinol 'Cyfres y Cynulliad'.
Roedd yn gyd-sylfaenydd y cylchgrawn diwylliannol, Tu Chwith, a bu’n olygydd arno o 1993 i 1996.
Fe’i haddysgwyd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth a Choleg Iesu, Rhydychen. Dyfarnwyd Doethuriaeth iddo ym 1998 am ei astudiaeth o ‘Agweddau ar Feirniadaeth Lenyddol Gymraeg Ddiweddar’.